Cymru FM Yn Darlledu’n Fyw o Fabolgampau Ysgol Y Dderwen Caerfyrddin
Dydd Mercher y 25ain o Fehefin mi fydd y cyflwynydd Marc Griffiths yn darlledu o ddiwrnod mabolgampau Ysgol y Dderwen yng Nghaerfyrddin. O 9:30 y bore bydd modd i chi glywed yr holl gystadlu yn fyw o’r Ysgol! Ras Sach, Ras Hir a Rasus Wy ar Lwy mi fydd y cyfan yn fyw yma ar Cymru FM.
Hefyd os fyddwch chi eisiau danfon unrhyw neges i unrhywun fydd yn cystadlu ebostiwch post@cymru.fm
A chofiwch mae modd Gwrando’n Fyw drwy lawrlwytho App Cymru FM sydd am ddim naill ar gyfer dyfais Android neu IPhone.
Mwynhewch y cystadlu a phob lwc i bawb!